L'elezione, Y Melys a'r Sur

Y Melys a'r Sur!

Wnes i orffen y blog cyntaf trwy nodi bod newid yn bosib. Wel er mawr syndod imi 'roeddwn yn iawn!

Yr wyf yn sosialydd ac yn ychydig o anarchydd bellach ac ymaelodais â Phlaid Cymru pan safodd Leanne Wood i fod yn arweinydd, a hynny achos ei safbwynt chwith eglur a chlir, fel yr amlygir yn Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd. Pleidleisiais dros Hywel Williams, sydd a record di fai am frwydro am faterion tegwch cymdeithasol yn y senedd. Yr wyf hefyd yn weithgar efo Cymdeithas yr Iaith yn lleol ac yn genedlaethol.

Nid yw'n gyfrinach fy mod wedi bod yn gefnogol i Jeremy Corbyn, ac yn wir yn fwy cefnogol na rhai o aelodau lleol y blaid Lafur.

Nid y Blaid Lafur enillodd yr etholiad ond llwyddwyd i sicrhau cefnogaeth i bolisiau chwith (dim gwahanol i bolisiau llywodraethau o bob lliw yn Llundain ers yr ail ryfel byd). Gwrthododd cyfran helaeth yr etholwyr neges milain papurau'r cyfalafwyr ynghyd a barn cyfundrefnol y BBC (yr un rhagfarn a welwyd efo refferendwm annibyniaeth yr Alaban) . Mae'r gyfundrefn neo ryddfrydol wedi cael braw a gobeithio fod 'na fawr o oes i agenda idiolegol llymder. Llwyddwyd i ysbrydoli pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio ac i fod yn rhan o wleidyddiaeth ac i frwydro am fyd gwell. Mae hyn i raddau yn adlewyrchiad o'r hyn a ddigwyddodd efo ymgyrch YES yn yr Alban.

Fodd bynnag rhag gororfoleddu, mae'r aelodau seneddol bleraidd oedd am ddisodli Corbyn a dal i fod yn briod efo'r polisiau neo ryddfrydolyn bleraidd.

Gellid taeru mai plaid gwahanol oedd Llafur Cymru ac onid 'dwr glas clir' sydd rhyngddynt a Llafur Llundain, yn hytrach na'r 'dwr clir coch' y soniadd Rhodri Morgan amdano ers stalwm?

Dyna pam fod gwleidyddiaeth yn llawer rhy bwysig i'w adael yn nwylo'r gwleidyddion!

Protest dydd Llun yma

O.N.
Mae'r blog ar gael mewn bratiaith sawl Iaith yn cynnwys yn y Sbaeneg i'r ymgeisydd Imperialaeth ddiwylliannol llafur Arfon. (gwnaeth hi ymateb i e bost Gymraeg yn Saesneg ac yna yn Sbaeneg)

 

2 thoughts on “L'elezione, Y Melys a'r Sur

Leave a Reply to K.A.Mylchreest cancella risposta

L'indirizzo email non verrà pubblicato. i campi richiesti sono contrassegnati *