Mae'n rhaid ichi maddau imi os nad yw y cynnwys yn hollol gyfredol gan imi gychwyn sgwennu hwn ym mis Chwefror. Yn anffodus mae genai oddeutu 4 blog wedi eu cychwyn ond heb eu cyhoeddi heb sôn am y rhai sydd yn fy mhen!
“Dyna pam fod gwleidyddiaeth yn llawer rhy bwysig i'w adael yn nwylo'r gwleidyddion!” Dyna sut wnes i gloi’r post dwethaf yn Mehefin 2017 ac mae 'na dipyn o ddwr wedi mynd o dan y bont ers hyny. Disodlwyd Leanne Wood, ac yn anffodus yn achos Jeremy Corbyn llwyddodd y giwed o aelodau seneddol neo ryddfrydol yn Llundain efo peirianwaith y cyfryngau a’r wasg cael madael ohono fo hefyd.
Mae'n siwr mai newid calonogol yw bod Mark Drakeford yn brif weinidog, a bellach mae’r ‘dwr clir coch’ rhwng Llafur Cymru a’r Llafur ‘Genedlaethol’ efo Starmer yn cystadlu efo baneri a rhethreg i fod y mwyaf prydeinllyd, ac sydd, fel Blair gynt, am gefnogi militariaeth Imperialaidd NATO, ac yn cyhuddo Stop the War coalition o ochri efo gelynion NATO.
Wrth gwrs erbyn hyn mae NATO yn cael ei weld fel gwaredwr y byd, ond stori arall di hynny.
Mae’n rhaid cofio bod Mark Drakeford am sefyll i lawr yn ystod y tymor hwn ac mae yna mwy na digon o aelodau blairaidd yn ysu i gymeryd ei le. A prun bynnag, cymharol yw bob dim a byddai diffygion y llywodraeth yn cymeryd sawl post i’w hamlygu, a gobeithio y byddaf i wedi cyhoeddi sawl post erbyn iddo adael!
Wrth gwrs y toriaid sydd yn dal mewn grym. A ‘they got Brexit Done’ er mwyn diogelu a chynyddu eu cyfoeth. Ac maent yn fodlon bradychu eu ffrindiau y DUP yng ngogledd Iwerddon a’r cytundeb heddwch am yr un rhesymau.
Celwyddau Boris Johnson, mwy o barti na gwleidyddiaeth?
Mynd i gogledd Iwerddon fel symud nwyddau i Camden?

Cyfeiriais yn y blog diwethaf at yr ymgyrch Yes yn yr Alban ac wrth gwrs mae’n rhaid sôn am y twf aruthrol yn aelodaeth Yes Cymru, ond wrth gwrs hefyd y problemau strwythurol a gwleidyddol a'r gwrthryfel mewnol a wnaeth gymaint o niwed (efo naratif mai y chwith sydd ar fai).
Ni ymaelodais â Yes Cymru gan nad oeddwn am fod yn aelod o fudiad lle oedd croeso i aelodau asgell dde, ond mae’n rhaid imi nodi tristwch am y digwyddiadau hyn.
Yr oedd felly’n dda gweld dyfodiad Undod ac rwyf yn aelod â’r mudiad ymahttps://undod.cymru/cy/
'Rydym yn fudiad democrataidd, sosialaidd, gweriniaethol a sefydlwyd i sicrhau annibyniaeth i Gymru.'
I ddatrys y problemau sy’n ein gwynebu dyma ydi’r math o Gymru Rydd dwi isho byw a bod yn rhan ohono.