Blog #01 Beth sydd mewn enw?

Croeso i'r blog cyntaf . Dwn i ddim pwy wneith ddarllen hwn ond roedd yn rhaid o achos yr enw?

Bues i ar yr hen ddaear yma am 39 mlynedd cyn dyfeisio yr enw PenSel.   (nid yw'r wefan wedi ei ddiweddaru ers talwm)

O fod wedi meddwl am enw mor dda rhaid oedd imi sefydlu PenSel Cymunedol! Roedd y ffaith bod y drefn yn rheoli mwyfwy ac yn gosod hualau ar beth oedd Tai Eryri yn rhoi rheswm eitha dilys i symud ymlaen hefyd. Dw i'n cofio rhywun yn deud mai Cymdeithas Dai oedd yn gywir....pwy bynnag fo Dai?!

Tai Gwynedd a esgorodd ar Tai Eryri er mwyn cymryd mantais o grantiau'r Llywodraeth. Roedd yn rhyfedd imi fod Tai Eryri yn gweithredu yn Ynys Môn ac ym Meirionydd. Rhyfeddach fyth yw y grymoedd sydd yn gyrru y canoli ym mhob maes yng Nghymru (datganoli yn cychwyn a gorffen y Cynulliad) a arweiniodd at Gyfuno Tai Eryri a Tai Clwyd a creu Grwp Cynefin. Y 'cynefin' yr holl ffordd o Aberdaron i Rhos! Cynefin y Wilderbeast ddyweda i!

Ymddiheuriadau am rwdlian ond ishio esbonio enw'r blog oeddwn i, er na ddylid gorfod gwneud, ond efallai os oes 'na ddarllenwyr ifanc efallai nad ydynt yn gwybod am garchar gwleidyddol yr H blocks yn y 6 Sir o Werddon lle farwodd Bobby Sands a streicwyr newyn eraill. Galwyd hefyd yn Long Kesh neu'r Maze. Caewyd y carchar yn 2000 ac heddiw mae rhan ohono'n ganolfan Heddwch. Digon simsan oedd y waliau yn y rhaglen Prisoner cell Block H

Mae newid yn bosibl.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *